Côr Merched Côrisma
“Ma’ nhw’n secsi” Carlo (Ifan Gruffydd) “Merched talentog” Hogiau’r Wyddfa
|
Sefydlwyd ym mhentre Cwmann, Llanbedr Pont Steffan gan Carys Lewis a Sian Roberts Jones yn 2006.
Ers hynny, mae'r Côr yn mynd o nerth i nerth. Wedi perfformio mewn neuaddau, capeli ac eglwysi yn lleol yn ogystal ag ar Radio Ceredigion a Radio Cymru.
O ganlyniad, maent wedi cynorthwyo mudiadau lleol i godi symiau uchel iawn tuag at elusennau.
|
|
|
|
Daw ein aelodau o ardal Cwmann yn ogystal ag ardaloedd Felinfach a Phumsaint. Rydym yn griw o ferched llawen iawn. Wedi mynd heibio oedran cystadlu gyda'r Urdd a'r Ffermwyr Ieuainc, ond yn mwynhau cwrdd yn gymdeithasol a chanu. Cynhelir ymarferion naill ai yng Nghanolfan Gymunedol Cwmann neu Ysgol Carreg Hirfaen bob yn ail nos Lun.
|
|
Côr sy’n cynnwys sawl haden, a’u lleisiau yn llawn carisma.
Cydnabyddir cefnogaeth Cyngor Cymuned Plwyf Pencarreg.
Manylion o'r gyngerdd ddiweddaraf.
|
|
Fideo o Helen a Sally yn canu gyda'r côr ym Mhenwythnos Preswyl
Merched y Wawr yn Llambed 19 Medi 2008
"these ladies showed a wealth of musical ability and individual talent from
the heart of our local community."
Adroddiad Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig Ceredigion



