Llyfr Gwesteion Côrisma
Croeso i'r llyfr gwesteion
Os hoffech adael sylw am gyngerdd a fynychoch neu ddanfon unrhyw gyfarchion, gwnewch hynny isod:
| Tegwen Morris - Merched y Wawr | 30 September 2008 11:45:48 |
Diolch yn fawr iawn i chwi fel Côr am gynnal noson wych i aelodau o Ferched y Wawr ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan Nos Wener 19 o Fedi 2008. Roedd yr aelodau oedd ar eu Penwythnos Prewsyl wir wedi mwynhau yr arlwy. Edrychaf ymlaen i'ch clywed eto yn fuan. Cofion a diolch Tegwen | |
| Heini Gruffudd Côr Tŷ Tawe | 30 June 2008 21:20:35 |
Hollol wych gweld y wefan am y côr – cyfraniad enfawr at Gymreictod ardal wledig, edmygu’n fawr! | |
| David Lewis | 14 April 2008 23:49:47 |
Safle hyfryd. Pob bendith am y dyfodol yn eich ymdrechion, | |
| Eric | 12 April 2008 17:19:41 |
Safle gwych. Da iawn, lluniau hyfryd. | |
| Cymorth Cristnogol Cangen Llambed | 10 February 2008 18:18:48 |
Diolch Corisma am gyfraniad arbennig yn ein Gwasanaeth Nadolig eleni, Carol Cerdd a Chan. Pleser oedd cael gwrando ar rhaglen mor amryddawn ac amserol. Hefyd diolch o galon am eich cyfraniad gwerthfawr yn yr Oedfa o Fawl yng Nghapel Shiloh a recordiwyd ar gyfer Caniadaeth y Cysegr mis Gorffennaf. | |
| MIddle Mrs L | 09 February 2008 17:06:43 |
Having seen Corisma perform on numerous occasions it is always a pleasure! They have made good progress in the short period of time they have been together. Keep going! Da iawn! | |
| Bethel Parcyrhos | 26 January 2008 16:55:15 |
Diolch yn fawr am y gyngerdd a gawsom gennych yng Nghapel Bethel Parcyrhos. Braf gweld y capel yn llawn. Roedd yn noson llwyddiannus iawn gyda chanu o safon. Codwyd arian sylweddol hefyd, a chyflwynom siec o £1000 i adran Oncoleg Ysbyty Glangwili. | |
