Ymarfer nesaf nos Lun 12 Ionawr 2009.  Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

Return to index

21 Nov 2008 - Noson Elusennol y Côr

Noddwyr:

 

Siop Flodau Cascade

WD Lewis a’i Fab

Emyr a Llinos Jones

Teulu Caegwyn , Harford

Amanda Jones a’r teulu

Teify Forge Ltd

Jeff a Rhian Evans

Owena Uridge

Iwan ac Aled Evans

Geraint Jones—Dairy Farmers of Britain

Mr & Mrs Lyn Davies

Dolen

Arwyn ac Eleri Davies

Coleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan

J H Williams a'i feibion

Caffi Mark Lane

Aelodau CFfI Cwmann

Ar nos Wener Tachwedd 21ain cynhaliwyd noson elusennol caws a gwin yng nghwmni Côr Corisma yn Neuadd St Iago Cwmann. Bu aelodau’r côr yn diddanu’r gynulleidfa yn ystod y nos wrth i bawb fwynhau’r lluniaeth a chymdeithasu. Swynwyd ni gyd gan leisiau hyfryd Helen Davies a Sally Saunders a chafodd bawb hwyl yng nghwmni arweinydd y noson a’r digrifwr o Langynnwr Mr Deryc Rees a lwyddodd ar un adeg i gael pawb ar eu traed i ymuno mewn gêm er mwyn codi arian at yr achos! Bu aelodau’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn ein cynorthwyo gyda’r gweini ac yn rhoi help llaw i Sian Jenkins (Castell) a fu mor weithgar yn ystod paratoadau’r noson. Diolchwyd iddi’n ddiffuant am ei gwaith gan gadeirydd y Côr Mrs Llinos Jones ynghŷd â holl noddwyr y noson a sicrhaodd noson fendigedig i bawb. Bu’n noson lwyddiannus llawn sbri a phawb yn ymuno yn yr hwyl. Codwyd £1,400 yn ystod y noson a diolch i bawb am eu cefnogaeth. Bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng Yr Ambiwlans Awyr a Phwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd 2010 yma yn Llambed.

 

 
Powered by Recipero Working together with BT